Hanes y Goeden Aml-wynebog
Newydd ar gyfer 2025 yw ail-grefftio'r Coed gyda llawer o wynebau ar ochr ddwyreiniol y Pônt Pysgod.
Wedi'i lleoli yn agos i'r Rheadrau ffurfiol, yng nghoedwig Pwll Pysgod, mae'r goeden Ffawydd yn sefyll yn dalsyth mewn safle uchel gyda'r gwreiddiau yn agored ac wedi'u gwasgaru dros y lan, yn edrych dros Bwll Pysgod y Gnoll o’i blaen a'r ceudod a'r gilfach tu ôl iddi.
Ar ddechrau 2025, roedd ceudod mawr ar y gwaelod a ffyngau parasitig drwyddi draw yn golygu bod ein coeden annwyl yn achosi perygl anochel i ddiogelwch y cyhoedd. Yn dilyn arolygon helaeth, arweiniodd y peryglon oedd yn gysylltiedig â'r goeden, yn cynnwys ei lleoliad ar godiad tir a'r system wreiddiau agored, at orfod ei thorri'n ôl yn sylweddol.
Roedd angen bywyd newydd ar y goeden werthfawr hon, sy'n cael ei galw gan lawer yn Goeden Aml-wynebog oherwydd y clymau a'r gwrymiau o gwmpas ei boncyff.
Cafodd yr holl ddeunydd a dorrwyd o'r goeden ei gadw a'i ailddefnyddio i greu'r nodweddion a welwch heddiw ar hyd llwybr y Goeden Aml-wynebog.






COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.