Llwybrau
Ymgollwch mewn hanes a natur ar ein
llwybrau cerdded
Immerse yourself in history and nature on our walking trails
Fel rhan o'n gwaith adfer gwerth miliynau o bunnoedd, rydym wedi creu pedwar llwybr newydd cyffrous i ymwelwyr eu mwynhau. Mae'r llwybrau yn amlygu popeth sydd gan Barc Gwledig y Gnoll i'w gynnig o ran hanes, natur a gwaith celf sy'n dod â'r parc yn fyw.
Mae pob llwybr yn cynnwys map hawdd ei ddilyn i'ch cadw ar y trywydd iawn. Gallwch hefyd wrando ar ddisgrifiadau sain a defnyddio'r paneli gwybodaeth newydd ar bwyntiau allweddol ar hyd pob llwybr er mwyn dysgu mwy am y fflora a'r ffawna, cyfrinachau'r gorffennol a'r gosodiadau newydd sy'n ychwanegu cymaint at yr amgylchoedd yma yn y Gnoll.
Llwybr y Teulu
Taith gerdded gylchol o amgylch Pwll Pysgod y Gnoll, yn cychwyn o'r prif faes parcio a mynd heibio'r rhaeadrau gan ymweld â phob un o'r 3 cae chwarae, y 'Goeden Aml-wynebog', heibio i Fwthyn y Pwll, cyfle i fwydo'r hwyaid o'r platfform gwylio hygyrch a mwynhau golygfeydd ar draws ein tiroedd eang.
Bydd y Ganolfan Ymwelwyr hefyd yn ganolbwynt gweithgareddau gyda lle ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a chynadleddau ac ardal chwarae meddal cyffrous i blant.
- Awgrym Da Mae'r llwybr hawdd cwbl hygyrch, sy'n gyfeillgar i deuluoedd, yn addas ar gyfer cerdded, cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn fel ei gilydd ac mae'n gorffen yn y Ganolfan Ymwelwyr lle gallwch fwynhau lluniaeth a byrbrydau haeddiannol.
- Llai na 1km
- 20-30 munud
Llwybr y Goeden
Amlwynebog
Also new is a re-imaging of The Tree of Many Faces on the east side of Fish Pond.
Ewch ar daith hudolus wrth i Ysbryd y Coed eich gwahodd i ganfod cerfiadau cywrain o greaduriaid mytholegol a chreaduriaid y goedwig sydd wedi eu cuddio ar hyd y llwybr. Faint o wynebau allwch chi eu cyfrif ar y goeden? Treuliwch beth amser yn gorffwys ar Orsedd y Gnoll, sedd adrodd straeon lle mae hanes a straeon cyfoethog y parc yn dod yn fyw.
Dewch i grwydro, i chwilio am gerfiadau ac i ymgolli yn y straeon sy'n gwneud ein parc yn wirioneddol arbennig. Os ydych am ddysgu mwy am y stori y tu ôl i Y Gwybodaeth Fwyaf, dysgwch ragor yma.
- Awgrym Da Mae'r llwybr hwn yn cynnwys rhai rhannau creigiog, â gwreiddiau ar yr wyneb gyda thir a rhiwiau amrywiol.
- 400m
- 15 – 25 munud
Llwybr Treftadaeth
Gyda digonedd o Dreftadaeth a Hanes ym Mharc Gwledig y Gnoll, mae'r llwybr hwn yn cychwyn naill ai ger Bwthyn y Pwll neu yn y Prif Faes Parcio ac mae'n mynd heibio Adfeilion Tŷ'r Gnoll, y Cwt Iâ a'r Ystâd Furiog cyn mynd heibio i Fwthyn y Pwll i gyfeiriad y Rhaeadrau a Choedwig Pwll Pysgod a heibio Llwybr y Goeden Aml-wynebog. Mae opsiwn i fynd i gyfeiriad Fferm Brynnau i gael golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe, cyn dilyn y nant yn ôl i lawr i'r Ganolfan Ymwelwyr. Mae'r holl hanes dros y blynyddoedd ar gael ar y byrddau gwybodaeth gyda dolenni at ffeiliau sain.
- Awgrym Da - Mae'r llwybr hwn yn cynnwys tir cymysg felly mae'n cael ei argymell gwisgo esgidiau addas. Gellir dod o hyd i ddisgrifiadau sain o'r llwybr yma.
- 2.5km
- 35 munud i 1 awr
- Ychwanegwch 1.75km arall, llethr igam-ogam gyson i gynnwys dolen Fferm Brynnau i gael golygfeydd panoramig syfrdanol.
Llwybr Coedwig Mosshouse
Crwydrwch drwy hyd at 200 erw o dir y Gnoll wrth i chi anelu tuag at Gronfa Ddŵr Coedwig Mosshouse ar bwynt uchaf yr ystâd sy'n cynnig golygfeydd di-dor ar draws Castell-nedd. Gyda thirnodau eiconig ar hyd y ffordd gan gynnwys Tŷ Hanner Ffordd, Yr Argae a'r Rhaeadrau a'r Groto a'r Gasibo gerllaw. O'r fan hon mae'r opsiwn i fynd i Goedwig Brynnau yn y gobaith o weld eu Gwartheg Cymreig.
- Awgrym Da - Dyma ein llwybr hiraf, gyda thir cymysg a rhai llethrau cyson a serth mewn rhannau.
- 4km
- 1.5 i 2 awr
COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.