Cyfeillion Parc y Gnoll
Grŵp o wirfoddolwyr gyda chenhadaeth i helpu i wella amgylchedd naturiol Parc Gwledig y Gnoll.
Grŵp o wirfoddolwyr yw Cyfeillion Parc y Gnoll, gyda chenhadaeth i wella amgylchedd naturiol Parc Gwledig y Gnoll.
Mae'r grŵp yn cynnal partïon gwaith misol ar fore Sul cyntaf y mis ac mae'r rhain yn agored i unrhyw un. Mae gweithgareddau hyd yma wedi cynnwys cael gwared ar rywogaethau ymledol, creu pyllau, monitro rhywogaethau, rheoli cynefinoedd a gwella hygyrchedd. Ewch i dudalen Facebook y Grŵp am fanylion a dyddiadau'r digwyddiad nesaf ac i fonitro unrhyw newidiadau i'r amserlen.
CYFEILLION PARC Y GNOLL
Dyma aelodau presennol y Pwyllgor:
- Mark Protheroe – Cadeirydd
- Catrin Evans – Ysgrifennydd
- Keith Roberts – Trysorydd
- Debra Davies – Ysgrifennydd Cofnodion
- Brian Warlow – Llywydd
Yn ogystal, mae grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig a rheolaidd yn helpu'r pwyllgor ac maen nhw'n rhan hanfodol o'r tîm.
CAEL GWARED AR FFROMLYS CHWARENNOG
Mae Ffromlys Chwarennog yn blanhigyn hynod ymledol sydd wedi ennill ei blwyf ledled y Parc. Mae'n blanhigyn unflwydd, gyda phob planhigyn yn cynhyrchu cannoedd o hadau y gellir eu taflu hyd at 7m. Ystyr hyn yw unwaith y mae wedi'i sefydlu ei fod yn gallu lledu'n anhygoel o gyflym, gan gau allan y planhigion cynhenid y byddech chi'n disgwyl eu gweld yno fel arfer. Yn ystod misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf mae'r grŵp yn clirio'r Ffromlys o ardaloedd allweddol cyn iddo allu blodeuo a thaflu hadau. Mae'n weithgaredd delfrydol ar gyfer gwirfoddolwyr gan ei fod yn hawdd iawn ei dynnu o'r pridd. Mae llawer ohono yn y Parc, felly gorau po fwyaf o bobl sy'n gwneud hyn.
ADFER GWLYPTIROEDD
Cafodd yr ardaloedd sydd wedi eu ffensio o dan ac uwch ben y cwrs golff eu creu'n wreiddiol fel gwlyptiroedd ac ardaloedd dolydd ond roedd prysg a mieri wedi meddiannu'r tir. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae Cyfeillion Parc y Gnoll wedi bod yn canolbwynti ar wthio'r mieri'n ôl a rheoli'r prysg, gyda'r gobaith o adfer y cynefinoedd gwlyptir a glaswelltir oedd unwaith yn hafan i lyffantod, brogaod, nadroedd y gwair, gweision y neidr, mursennod a llawer o infertebratau eraill.
Yn 2023, sicrhaodd Cyfeillion Parc y Gnoll gyllid Grant Partneriaeth Natur Lleol Castell-nedd Port Talbot i adfer y pyllau oedd wedi cael eu colli ac i gychwyn ar y broses o adfer y dolydd.
Mae peth gwaith i'w wneud o hyd i reoli'r mieri, ond rydym eisoes yn gweld cynnydd enfawr mewn blodau gwyllt.
Mae modd gweld y gwlyptiroedd uchaf o blatfform gwylio, ond gofynnwn i chi gadw cŵn allan o'r ardal sydd wedi'i ffensio gan fod y pwll yn hawdd ei niweidio. Rydym eisoes yn cael rhai problemau gyda'r pwll ddim yn dal dŵr drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn ei fonitro i weld sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf.
TEITHIAU CERDDED DAN ARWEINIAD
Mae Parc Gwledig y Gnoll yn adnodd anhygoel yng Nghastell-nedd. Mae'n hafan ar gyfer bywyd gwyllt ac yn fan delfrydol i ddianc i fyd natur. Mae Cyfeillion y Gnoll wedi cynnal nifer o deithiau cerdded tywys dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, gyda chefnogaeth garedig Dr Charles Hipkin (Cadeirydd y Bartneriaeth Natur Lleol), RSPB a Choed Cadw. Bydd unrhyw ddigwyddiadau neu deithiau cerdded tywys i ddod yn cael eu cyhoeddi ar Dudalen Facebook y Cyfeillion neu drwy ein rhestr bostio.





Cymryd rhan
Mae Cyfeillion y Gnoll bob amser yn chwilio am ragor o gymorth, boed hynny'n cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli yn yr awyr agored neu'n helpu i drefnu pethau tu ôl i'r llenni. Os hoffech chi ddod yn rhan o grŵp cyfeillgar ac ymroddgar i helpu i wneud ein Parc yn well, yn fwy hygyrch ac mor fioamrywiol â phosibl, dilynwch ni ar Facebook neu cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod.
COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.