ParkRun
Mae croeso i bawb gymryd rhan yn y parkrun wythnosol ym Mharc y Gnoll.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Mae parkrun yn ddigwyddiad sy'n rhad ac am ddim. Gofynnwn i chi gofrestru cyn y tro cyntaf y byddwch yn cymryd rhan er mwyn i chi dderbyn cod bar i'w sganio er mwyn i chi allu cofnodi eich amser rhedeg. Cofrestrwch yma am ddim.
Dysgwch fwy am y cwrs a dewch o hyd i gyngor yma.
Oes yna ddigwyddiad parkrun iau?
Mae parkrun iau ym Mharc Gwledig y Gnoll bob bore Sul am 9yb. Mae'r daith yn 2km ac mae’n ddigwyddiad i rai rhwng 4 a 14 oed. Gofynnwn am gofrestru pob plentyn cyn iddyn nhw redeg am y tro cyntaf er mwyn iddyn nhw allu cofnodi eu hamser.
Ydw i'n gallu gwirfoddoli?
Mae parkrun yn sefydliad sy'n cael ei arwain yn llwyr gan wirfoddolwyr. Rydyn ni bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i'n helpu i wneud parkrun Parc y Gnoll yn llwyddiant bob penwythnos. Gallech chi helpu i osod pethau ar gyfer y digwyddiad, sganio codau bar cyn i'r rhedwyr gychwyn neu helpu pawb i fynd o gwmpas y cwrs yn ddiogel: byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.








COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.