Hwyl i'r Teulu Cyfan
Os ydych chi'n chwilio am hwyl, antur a chyfle i chwarae yn yr awyr agored sy'n llawn adrenalin, does dim angen edrych ymhellach na'r meysydd chwarae ym Mharc Gwledig y Gnoll. Mae gennym dri o gaeau chwarae pwrpasol yn yr awyr agored sy’n darparu ar gyfer pob oedran a'r rhai ag anghenion hygyrchedd.
CAE CHWARAE PLANT BACH A HYGYRCH
Wedi'i leoli nesaf at y Ganolfan Ymwelwyr newydd, mae'r cae chwarae plant bach a hygyrch yn ardal berffaith i blant bach ganfod eu traed ar yr offer sbonciog, y trogylch, y siglenni a’r llithrennau. Mae gan yr ardal chwarae hygyrch drampolîn ar lefel y llawr a Siglen Rhianna, y ddau'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Ar ddyddiau heulog, fydd dim rhaid i chi fynd yn bell am luniaeth, gyda ffenestr Ciosg y Ganolfan Ymwelwyr drws nesaf yn gweini hufen iâ a diodydd oer!
CAE CHWARAE ANTUR
Dewch i'n Cae Chwarae Antur i gael profiad o'r fframiau dringo aml-bwrpas gyda chylchoedd bariau mwnci, tŵr dringo brig y coed gyda llithren diwb droellog a pholyn gorsaf dân! Gwnewch eich hun yn chwil ar y troellwyr a'r siglenni basged a gwibiwch drwy'r parc ar y wifren wib!
NEWYDD ar gyfer yr Hydref 2025…. 3 tŵr dringo brigau'r coed newydd gyda thŵr ENFAWR ar dop y parc! Ydych chi am feiddio mynd i'r brig? A fedrwch chi reidio'r llithren droellog ar hyd y ffordd yn ôl i'r Ddaear?
CAE CHWARAE NATURIOL
Mae Teiars, Camwyr logiau, Wal ddringo a'r Car Rasio i gyd ar gael yn ein Cae Chwarae Naturiol, wedi ei greu'n gynaliadwy gyda nodweddion naturiol.
We have an impressive soft play area Chwarae dan do Pen-y-Coed yn y Ganolfan Ymwelwyr. Gyda thri llawr o hwyl a chwarae synhwyraidd, gall plant ifanc fwynhau'r holl bethau newydd, beth bynnag yw'r tywydd!
Hanes y Goeden Aml-wynebog
Also our award winning Tree of Many Faces is a re-imaging of our storytelling area on the north side of Fish Pond.
Ewch ar daith hudolus wrth i Ysbryd y Coed eich gwahodd i ganfod cerfiadau cywrain o greaduriaid mytholegol a chreaduriaid y goedwig sydd wedi eu cuddio ar hyd y llwybr. Faint o wynebau allwch chi eu cyfrif ar y goeden? Treuliwch beth amser yn gorffwys ar Orsedd y Gnoll, sedd adrodd straeon lle mae hanes a straeon cyfoethog y parc yn dod yn fyw.
Dewch i grwydro, i chwilio am gerfiadau ac i ymgolli yn y straeon sy'n gwneud ein parc yn wirioneddol arbennig.













Mae ein maes chwarae newydd sbon yn ardal chwarae antur rhyngweithiol aml-lefel i anturiaethwyr o bob oed. Gyda llithrennau, waliau dringo a gofodau aml-blatfform heriol, gall plant ganiatáu i'w dychymyg redeg yn rhydd wrth iddyn nhw symud drwy'r strwythurau.
Wedi'i ddylunio ar gyfer pob gallu, mae Tyrau Gnoll yn ardal chwarae lliwgar, aml-synhwyraidd gydag amrywiaeth o nodweddion hygyrchedd o fynediad ar lefel y llawr a llwybrau eang at rampiau a gwahanol lefelau o anhawster. Mae Tyrau Gnoll yn ychwanegiad gwych i'n hardaloedd chwarae awyr agored ac mae oriau o hwyl yn aros i ymwelwyr o bob oed.
COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.