Cwestiynau Cyffredin
Dyma'r atebion i rai o'r cwestiynau cyffredin am Barc Gwledig y Gnoll.
Os oes gennych chi gwestiwn sydd heb gael ei ateb yma, anfonwch e-bost at gnollpark@npt.gov.uk a byddwn yn hapus i helpu. Sylwch nad oes gennym ffôn mwyach felly anfonwch e-bost atom a byddwn yn cysylltu â chi
Cyrraedd Yma
Sut ydw i'n cyrraedd Parc Gwledig y Gnoll?
Ein cyfeiriad llawn yw Ystâd y Gnoll, Fairyland, Castell-nedd, SA11 3BS. Dilynwch yr arwyddion o'r A465. Y cyfeiriad What Three Words ar gyfer mynedfa'r parc o'r maes parcio yw format.damage.sulk
Ydw i'n gallu cyrraedd Parc Gwledig y Gnoll ar gludiant cyhoeddus?
Gallwch. Dewch ar y bws 153 o Orsaf Bysiau Castell-nedd i Ystâd Fairyland a cherddwch i mewn drwy'r prif gatiau.
Oes tâl am ymweld?
Mae mynediad i Barc Gwledig y Gnoll am ddim i bob ymwelydd. Mae angen talu am rai atyniadau megis Chwarae Dan Do ar y dydd.
Parcio Gallwch naill ai dalu ar y dydd gydag arian parod, cerdyn neu'r Ap MiPermit. Neu gallwch brynu pàs blynyddol ar gyfer y Gnoll yn unig sy'n rhoi disgownt i chi yn y caffi a'r ardal chwarae dan do. Am well bargen ac i fwynhau pob un o'r Parciau Gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot gallwch brynu Pàs Pob Parc sy'n rhoi mynediad i chi i Barc Gwledig Margam, Parc Coedwig Afan a Pharc Gwledig y Gnoll gyda disgownt ar weithgareddau bwyd a diod ym mhob un o'r tri pharc.
Beth yw'r amseroedd agor?
- Café: 10.00am – 5.00pm
Ydy Parc Gwledig y Gnoll yn hygyrch i bob ymwelydd?
Mae'n Canolfan Ymwelwyr yn gwbl hygyrch gyda mynediad gwastad ym mhob mynedfa a lifft i bobl gyrraedd pob llawr. Mae toiledau hygyrch a chyfleuster Changing Places yn y Y Ganolfan Ymwelwyr hefyd.
Ar y cyfan, mae Parc Gwledig y Gnoll yn hygyrch i bawb. Mae llawer o'r prif lwybrau, yn enwedig o gwmpas y llyn, yn llydan ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae Llwybr y Teulu yn gwbl hygyrch. Mae tirwedd cymysg ar y llwybrau eraill ac efallai na fyddan nhw'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio.
Oes gennych chi lefydd parcio i'r anabl?
Oes, mae 10 lle parcio i'r anabl wedi'u lleoli nesaf at Y Ganolfan Ymwelwyr.
Oes gennych chi fannau gwefru cerbydau trydan?
Dim ar y funud, ond rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella profiad yr ymwelydd felly gall hyn fod yn nodwedd y byddwn yn ei hychwanegu yn y dyfodol.
Cyfleusterau
Oes yna doiledau cyhoeddus?
Oes, mae'n toiledau wedi'u lleoli yn y Y Ganolfan YmwelwyrMae gennym doiledau i'r anabl a chyfleusterau newid cewynnau hefyd.
Ydy cŵn yn cael dod i Barc Gwledig y Gnoll?
Ydyn wrth gwrs! Mae croeso i gŵn ymweld â Pharc Gwledig y Gnoll. Rydyn ni'n gofyn i chi gadw'r cŵn ar dennyn pan fyddwch chi'n agos ar y Y Ganolfan Ymwelwyr a'r Caeau Chwarae. Mae cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn cael dod i mewn i lawr gwaelod y Ganolfan Ymwelwyr. Rydyn ni hyd yn oed yn gweini pup-a-cinos a Hufen Iâ Cŵn Utterly Mutterly i gadw'r cŵn i gyd yn hapus!
Rydyn ni'n gofyn i ymwelwyr bigo baw eu cŵn ac mae biniau gwastraff cŵn ar gael ar draws y parc.
Pa lefydd gwerthu bwyd sydd ar gael?
Gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o ddiodydd twym ac oer, byrbrydau ysgafn, brechdanau, prydau twym a hufen iâ.
Mae ein peiriannau Barista yn cynnig pob un o'ch hoff fathau o goffi, ynghyd â dewis llawn o ddiodydd digaffein a llaeth amgen, yn ogystal â diodydd baby-cino a pup-a-cinos!
Gallwch hefyd brynu bwyd hwyaid yn y caffi i fwydo'r hwyaid ar y llyn.
Ydy'r caffi'n darparu ar gyfer gofynion deiet penodol?
Ydy, mae'r caffi'n darparu ar gyfer alergeddau a gofynion dietegol. nghaffi Parc Gwledig y Gnoll.
Oes yna fannau picnic?
Wrth gwrs! Mae nifer o fannau picnic penodol yn ogystal â digonedd o fannau gwyrdd i chi fwynhau cinio yn yr awyr agored. Mae croeso i chi ddod â'ch picnic eich hun gyda chi neu gallwch brynu bwyd i'w gludo allan o'r Caffi i fwynhau tiroedd y Parc wrth fwyta. Caffi i fwynhau tiroedd y Parc wrth fwyta.
Oes gennych chi wasanaeth eiddo coll?
Os ydych chi wedi colli rhywbeth, e-bostiwch gnollpark@npt.gov.uk i roi gwybod i ni ac fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i'ch eitem.
Os ydych chi wedi dod o hyd i eiddo coll, rhowch yr eitem i staff yn y caffi yn y Y Ganolfan Ymwelwyr.
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Oes yna unrhyw ddigwyddiadau yn y parc heddiw?
Mae rhywbeth i'w wneud bob amser ym Mharc Gwledig y Gnoll. Ewch i'r dudalen Cynllunio Eich Ymweliad i ddysgu rhagor am bopeth sydd ar gael. Mae gennym rai digwyddiadau arbennig wedi'u cynllunio a gallwch ddysgu rhagor amdanynt ac archebu lle fan hyn.
Rydyn ni'n cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys gŵyl fwyd, dyddiau hwyl i'r teulu a sioeau ceir. Rydyn ni hefyd yn cynnal Parkrun a Parkrun Iau.
Pa weithgareddau sydd ar gael ar gyfer plant a theuluoedd?
Mae Parc Gwledig y Gnoll yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i deuluoeddyn cynnwys teithiau cerdded drwy'r coedardaloedd chwarae i blant (yn cynnwys cae chwarae antur),pyllau hwyaid a nodweddion hanesyddol fel adfeilion Tŷ'r Gnoll a rhaeadrau o'r 18fed ganrif.
Ydw i'n gallu beicio o gwmpas y parc?
Ydych, mae hawl i feiciau a sgwteri ddod i mewn i'r parc. Gofynnwn i bob beiciwr fod yn gwrtais tuag at eraill a pheidio mynd yn rhy gyflym.
Ydw i'n cael bwydo'r hwyaid?
Ydych, rydych chi'n cael bwydo'r hwyaid. Mae bwyd hwyaid ar gael i'w brynu yn y Y Ganolfan Ymwelwyr.
Oes yna lwybrau a thrywyddau cerdded?
Oes, mae yna nifer o deithiau drwy'r coed ac wrth y llyn gydag arwyddbyst i'ch arwain. Gallwch ddod o hyd i lwybrau o lefelau anhawster gwahanol, yn cynnwys llwybrau gwastad sy'n addas i bygis a chadeiriau olwyn, a llwybrau mwy cuddiedig sy’n arwain at adfeilion hanesyddol.
Oes yna unrhyw bethau hanesyddol i'w harchwilio?
Oes, mae'r parc yn ardd dirlun o ddechrau'r 18fed ganrif gyda statws rhestredig Gradd II. Gallwch archwilio adfeilion Tŷ'r Gnoll, y rhaeadrau, groto a chwt iâ. Dysgwch fwy am hanes Parc y Gnoll yma.
Rheolau a Rheoliadau
Oes yna unrhyw bethau sy'n cael eu gwahardd ym Mharc Gwledig y Gnoll?
Gofynnwn i bawb sy’n ymweld â'r parc fod yn gwrtais gyda phobl eraill a bod yn ymwybodol o'u hamgylchedd, gan roi unrhyw sbwriel yn y biniau a gadael y parc fel y daethant o hyd iddo.
Nid oes hawl chwarae cerddoriaeth swnllyd.
Rhaid defnyddio beiciau a sgwteri yn gyfrifol yn y parc a pheidio â mynd yn rhy gyflym arnyn nhw.
Nid yw tanau agored a barbeciws yn cael eu caniatáu.
Rhaid i unrhyw ddigwyddiad wedi'i drefnu neu ddigwyddiad masnachol fod â thrwydded digwyddiad a rhaid ei drefnu drwy Reolwyr Parc Gwledig y Gnoll. Dim hedfan dronau heb ganiatâd.
Ydw i’n cael pysgota?
Na, dydyn ni ddim yn caniatáu pysgota ym Mharc Gwledig y Gnoll.
COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.