Llogi'r Lleoliad
Now available to hire
Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gnoll yn lleoliad unigryw a hardd ar gyfer eich digwyddiad nesaf. Yn swatio o fewn natur gyda golygfeydd dilestair dros Bwll Pysgod y Gnoll, mae'r cyfleuster modern newydd hwn yn cynnig gofodau amlbwrpas ynghyd â gwasanaeth arlwyo o ansawdd uchel.
P'un a ydych chi'n cynllunio cynhadledd, cyfarfod oddi ar y safle, parti neu ddathliad, mae Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gnoll yn cynnig golygfeydd digymar a chyfleusterau newydd sbon sy'n addas ar gyfer amrywiaeth eang o grwpiau.
EIN GOFOD DIGWYDDIADAU
Mae dwy ystafell ddigwyddiadau ar gael, gydag aerdymheru, a lle i rhwng 20 a 30 o bobl mewn gwahanol batrymau ystafell. Mae gan bob ystafell deledu clyfar sgrîn fflat ar gyfer cyflwyniadau ac mae Wi-Fi cyflym iawn am ddim yn dod gyda phob archeb.
Gyda golygfeydd digymar dros Bwll Pysgod y Gnoll, mae'n llawr cyntaf yn cynnig ffenestri o'r llawr i'r nenfwd a theras awyr agored i roi'r lle perffaith ar gyfer eich digwyddiad, waeth beth fydd y tywydd. Holwch heddiw am opsiynau llogi preifat.



Opsiynau Arlwyo
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang o opsiynau arlwyo ar gyfer pob chwaeth a gofynion a gallwn ddarparu unrhyw beth o luniaeth ysgafn i ddiwrnod llawn o arlwyo. Dewiswch o blith opsiynau bwffe neu frecwast amrywiol gyda the a choffi i gychwyn y dydd yn iawn, diodydd poeth ffres a danteithion melys yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac opsiynau cinio twym neu oer.
Rydyn ni'n darparu ar gyfer unrhyw anghenion deiet ac alergeddau. Holwch fan hyn.
Hygyrchedd
Mae'n lleoliad yn gwbl hygyrch, gyda mynediad heb risiau o'r maes parcio i ofodau'r digwyddiadau ar y llawr cyntaf. Mae gennym lifft i gwsmeriaid hefyd a thŷ bach Changing Places ar y llawr gwaelod.
Cynllunio Digwyddiadau
Gall ein tîm ar y safle eich helpu i greu'r digwyddiad perffaith. Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod holl elfennau'r dydd yn rhedeg yn llyfn, yn cynnwys gosod popeth a chymorth technegol, arlwyo a chau'r digwyddiad, mae ein tîm wrth law i gael gwared â'r straen.
Cysylltwch nawr i ddysgu rhagor am ein gwasanaethau llogi lleoliad.
COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.