Natur
Mae Parc Gwledig y Gnoll yn hafan i garwyr planhigion a bywyd gwyllt, gan gynnig tapestri cyfoethog o gynefinoedd yn amrywio o goetiroedd hynafol a phyllau i ddolydd gwyllt a nentydd llifeiriol. O'r eiliad y byddwch yn dod i mewn i'r parc, byddwch wedi eich amgylchynu â natur.
Coetiroedd
Mae coetiroedd y Gnoll yn gymysgedd trawiadol o rywogaethau coed brodorol a rhai nad ydynt yn frodorol. Cafodd llawer o'r coed a welwch yma heddiw eu plannu yng nghyfnod Mackworth gan dyddio'n ôl gannoedd o flynyddoedd. O'r Ganolfan Ymwelwyr gallwch ddilyn y llwybr o gwmpas y Pwll Pysgod i gyrraedd coedwig Ffawydd wych. Mae'r rhodfa o goed Castanwydden y Meirch yn rhoi concyrs yn yr Hydref. Cadwch lygad am rai coed sbesimen sydd wedi cael eu plannu yn cynnwys Oestrewydden a Masarnen Norwy. Er nad ydyn nhw'n frodorol i Dde Cymru, mae'r coed yma bellach yn ffurfio rhan o'r amrywiaeth o goetiroedd yma yn y Gnoll.
Yn y gwanwyn mae olion coetiroedd hynafol fel Coedwig Mosshouse a'r Dingle yn ffrwydrad o liw gyda Chlychau'r Gog, Blodau'r Gwynt, Marddanhadlen Felen a Briwydd Bêr. Mae ffyngau tymhorol fel Pigau Draenog y Coed, Bidog Blodiog a'r Amanita Benfelen llachar yn batrwm ar lawr y coetir yn yr Hydref.
Mae'r coetiroedd yn darparu cynefin ffyniannus sy'n denu amrywiaeth o adar y coed yn cynnwys Delor y Cnau, y Gnocell Fraith Fwyaf, Ji-binc a Phinc y Mynydd. Yn ystod y misoedd cynhesach, mae mudwyr yr haf fel y Siff-saff, Telor y Coed a Thelor yr Helyg yn llenwi'r canopi â chân adar.







Dyfrffyrdd
Mae dŵr yn chwarae rhan hanfodol yn ecosystem y Parc. O'r llynnoedd addurnol i'r nentydd a'r ffosydd naturiol, mae'r parc yn cynnal cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae'r Pwll Mawr yn hwb i fywyd dyfrol. Yn y Gwanwyn, mae'r dŵr bas yn aml yn drwch o rifft llyffantod a brogaod sy'n troi'n benbyliaid yn gyflym. Wrth i'r Haf gyrraedd gallwch weld brogaod ifanc ar y llwybrau ger y dŵr yn mentro draw i'r glaswelltiroedd cyfagos.
Mae dyfrffyrdd eraill, megis Llyn Mosshouse, yn fwy tawel a heddychlon, wedi'u hamgylchynu gan goed Bedw a Helyg sy'n gartref i adar a phryfed. Mae Nant Preswylfa a nentydd bychain eraill sy'n llifo yn denu Siglennod Llwydion a Bronwennod y Dŵr.
O gwmpas ymylon llynnoedd a phyllau'r parc mae blodau gwyllt tymhorol yn tyfu megis Tegeirian-y-Gors Deheuol, sy'n blodeuo ar lannau'r de yn gynnar yn yr haf.





Anifeiliaid
Mae'r parc yn llawn bywyd gwyllt drwy gydol pob tymor. Mae'r pyllau'n gartref i adar gwyllt amrywiol, yn cynnwys Elyrch Dof, Ieir Dŵr, Cwtieir, Hwyaid Gwylltion, Hwyaid Copog, Gwyachod Bach a Hwyaid Danheddog. Mae modd gweld ymwelwyr mwy swil megis y Rhegen Dŵr, y Crëyr Glas a Glas y Dorlan ar ddyddiau tawel. Mae Pibydd y Dorlan yn ymweld yn achlysurol yn ystod y Gwanwyn.
Mae amffibiaid yn gyffredin iawn yn y Gwanwyn gyda llyffantod, brogaod a madfallod dŵr cyffredin yn ymgartrefu yn y pyllau a'r ffosydd.
Mae digonedd o bryfed yma hefyd, gyda gloÿnnod byw fel y Fritheg Arian a'r Brithribin Porffor i'w gweld yn y coetiroedd, a gwyfynod prin fel Cathan y Gwernos, y Blaen Brown a'r Gwalch-wyfyn mawr yn ymweld â'r Parc yn y nos.
Mae nosweithiau cynnes yr haf yn denu'r Ystlum Mawr ac Ystlum y Dŵr, yn enwedig o gwmpas y Pwll Mawr, lle maen nhw'n bwydo ar y pryfed sy'n cael eu denu at y dŵr. Mae Ystlumod Hirglust hefyd yn magu yn y coetiroedd.
Gellir gweld y Barcud Coch, aderyn cenedlaethol Cymru, yn aml yn hedfan yn yr awyr uwchben y Parc.





Gwesty Pryfed 'Gnollywood'
Wrth i chi ddod i mewn i Barc Gwledig y Gnoll a gyrru i gyfeiriad y maes parcio byddwch yn gweld ein Gwesty Pryfed 'Gnollywood' newydd ar y chwith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd golwg fanylach ar y gwesty wrth i chi gyrraedd y parc er mwyn dysgu mwy am y gwahanol rywogaethau sy'n cael eu denu gan yr arwydd trawiadol hwn.
Cafodd ei osod gan Dîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'i gyllido gan Gronfa 'Llefydd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru ac mae'r llythrennau'n darparu hafan ddiogel ar gyfer creaduriaid bach a phryfed. Maen nhw'n darparu bioamrywiaeth ac yn cefnogi ecosystemau lleol gan annog peillwyr a llu o fywyd gwyllt arall.
Cofiwch dynnu hunlun wrth y Gwesty Pryfed a'n tagio ni yn eich postiad! #ParcGwledigGnoll #gnollywood
Dysgwch ragor am Natur ym Mharc Gwledig y Gnoll ac ar draws Castell-nedd Port Talbot fan hyn.




COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.