Hanes
Yn swatio ar ymyl ddwyreiniol Castell-nedd, mae Parc Gwledig y Gnoll yn gymysgedd cyfareddol o harddwch naturiol a hanes cyfoethog. Yn rhychwantu dros 200 erw o goetiroedd, pyllau a gerddi wedi'u tirlunio, mae'r parc yn dyst i ganrifoedd o drawsnewid - o ystâd deuluol amlwg i barc ac atyniad cyhoeddus poblogaidd.
Dechreuadau
Mae hanes y Gnoll yn dyddio'n ôl i'r 16fed ganrif pan oedd yn eiddo i'r teulu Evans. Roedd David Evans, a wasanaethodd fel siryf yn 1632, ymhlith ei drigolion cynnar nodedig. Aeth yr ystâd drwy'r teulu Evans ac erbyn 1686 Mary Evans oedd yr unig etifedd i'r ystâd oedd ar ôl a'r flwyddyn honno fe briododd hi Syr Humphrey Mackworth a daeth yn berchennog yr ystâd. Roedd Mackworth yn gyfreithiwr ac yn entrepreneur nodedig o Swydd Derby ac roedd ganddo nifer o gynlluniau ar gyfer yr ystâd.
Cyfnod Mackworth
O dan stiwardiaeth Syr Humphrey Mackworth bu datblygiadau sylweddol yn Ystâd y Gnoll. Ehangodd Syr Humphrey y tŷ yn 1702, gan ychwanegu nodweddion fel cerbyty, ystafelloedd i'r gweision, a chyfleusterau storio dŵr. Yn ogystal â phensaernïaeth, roedd Syr Humphrey yn allweddol yn hyrwyddo diwydiannau lleol, yn enwedig cloddio glo a mwyndoddi copr, gan integreiddio gallu diwydiannol â rheoli ystadau.
Parhaodd ei fab, Herbert Mackworth, â'r etifeddiaeth hon, gan wella apêl ddiwydiannol ac esthetig yr ystâd ymhellach.fedDaeth y tirlunio o'r 18fed ganrif, a briodolir i ddylunwyr fel Thomas Greening, ag elfennau ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys rhaeadrau, grotos a'r Tŵr Eiddew eiconig. Roedd y nodweddion hyn yn ymgorffori arddulliau gerddi'r cyfnod, gan gyfuno defnyddioldeb ag addurniadau.
Esblygiad yr Ystâd
Daeth llinach Mackworth i ben gyda marwolaeth Syr Robert Mackworth ym 1794. Ailbriododd ei weddw, Mary, Capel Hanbury Leigh, gan arwain at werthu'r ystâd yn y pen draw i Henry Grant yn 1811. Fe adfywiodd y teulu Grant yr eiddo, gan gynnal ei rwysg a'i addasu i gwrdd â chwaeth fwy cyfoes. Prynodd Charles Evan-Thomas, cefnder y teulu Grant, yr ystâd yn y 1860au a gwnaeth newidiadau pensaernïol ond gan gadw ei hanfod hanesyddol. Ganwyd ei fab, Hugh Evan-Thomas, yn y Gnoll a daeth yn swyddog llynges nodedig.
Dod yn Eiddo Cyhoeddus
Erbyn canol yr 20fedfed ganrif, roedd yr ystâd yn wynebu esgeulustod, gan arwain at ddymchwel y prif dŷ yn 1957 oherwydd pryderon am ddiogelwch. Gan gydnabod ei arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol i'r ardal, prynodd Corfforaeth Castell-nedd y tiroedd, gan ei drawsnewid yn barc cyhoeddus a sicrhau cadw'r nodweddion oedd yn weddill.
Parc Gwledig y Gnoll Heddiw
Heddiw, mae'r parc yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr ac mae'n adnabyddus am ei nodweddion hanesyddol, ei gyfleusterau chwarae i blant a'i raglen ddigwyddiadau amrywiol. Mae'r parc yn cynnwys amrywiaeth o byllau, llwybrau coetir, adfeilion Tŷ'r Gnoll a'r Tŵr Eiddew yn ogystal â nodweddion mwy modern fel caeau chwarae antur, canolfan ymwelwyr a chyfleusterau arlwyo.
Dechreuodd y gwaith ar brosiect gwerth £12m i wella'r parc yn 2024. Mae'r gwaith yn cynnwys canolfan ymwelwyr deulawr newydd cwbl hygyrch gyda chaffi modern, lle chwarae meddal i blant, mannau pwrpasol ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau a balconi gwych sy'n wynebu'r de gyda golygfeydd ar draws y pwll.
Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys adfer Bwthyn y Pwll i fod yn gartref gwyliau gyda lle i chwech o bobl gysgu, gwaith atgyweirio adfeilion Tŷ'r Gnoll a gwaith adfer ar y rhaeadrau hanesyddol. Mae cyfres newydd o lwybrau a phaneli dehongli wedi'u datblygu ledled y parc tra bod cae chwarae antur coetir newydd yn cryfhau'r cyfleusterau i blant a theuluoedd ymhellach.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy brosiect Coridor Treftadaeth Cwm Nedd.
I ddysgu mwy am hanes Parc Gwledig y Gnoll, dewch i ymweld ag un o'n llwybrau newydd.






COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.