Ailadeiladu Tŷ'r Gnoll yn Ddigidol
Roedd Tŷ'r Gnoll unwaith yn edrych i lawr dros dref Castell-nedd ac roedd yn dirnod amlwg yn yr ardal. Roedd yn cynnwys arddull castellog Sioraidd gyda thyrau cornel crwn a heulfan o wydr.
Dros amser, cafodd y tŷ ei foderneiddio a'i leihau mewn maint, gyda rhannau o'r tŷ yn cael eu dymchwel ddiwedd y 1800au a dechrau'r 1900au. Cafodd y tŷ ei ddymchwel yn llwyr yn 1957 oherwydd pryderon diogelwch a dim ond ôl troed y tŷ sydd ar ôl bellach.
Mae'n anodd dychmygu sut olwg oedd ar y tŷ pan gafodd ei adeiladu gyntaf yn 1776 ond rydym wedi creu adeilad digidol i roi'r cyfle i chi ddychmygu'r cartref hwn a oedd unwaith yn fawreddog ac ysblennydd.
Mae gan Barc Gwledig y Gnoll dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog. Cyn iddo fod yn ofod cyhoeddus, roedd yn eiddo i sawl teulu a roddodd eu stamp unigryw eu hunain ar Dŷ'r Gnoll ac ar y buddiannau busnes amrywiol a ddechreuodd ar yr Ystâd.
COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.