Amdanom ni
Mae llawer mwy nag sy'n amlwg ar yr olwg gyntaf ym Mharc Gwledig y Gnoll
Mae Parc Gwledig y Gnoll yn barc 240 erw ar ochr ddwyreiniol Castell-nedd. Mae'n gyrchfan gwych i ddod i grwydro, p'un a ydych chi â diddordeb mewn hanes neu natur neu am gael cyfle i fwynhau cerdded yn yr awyr agored. Mae gennym byllau, llwybrau cerdded, gofodau gwyrdd agored a llawer o nodweddion arwyddocaol megis y rhaeadrau ac adfeilion Tŷ'r Gnoll. Mae gennym lety gwyliau ar y safle hyd yn oed a Chanolfan Ymwelwyr newydd i chi fwynhau diod twym tra'n edrych dros y Pwll Pysgod.
Mae Parc Gwledig Y Gnoll yn eiddo ac yn cael ei reoli gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae hanes Ystâd y Gnoll yn mynd yn ôl bron 400 mlynedd pan oedd yn eiddo i'r teulu Evans. Aeth y tir i'r teulu Mackworth yn 1702 ac yn ystod eu perchenogaeth hwy y cafodd Tŷ'r Gnoll ei adeiladu. Yn ystod y blynyddoedd wedi hynny cafodd rhai o bif nodweddion y Gnoll eu llunio megis y gerddi tirlun, y rhaeadrau a'r Tŵr Eiddew gan ddod â chymeriad a harddwch i'r lle.
O'r eiliad y byddwch yn dod i mewn i Barc Gwledig y Gnoll byddwch yn gweld ein gwesty pryfed 'Gnollywood' ac yn cael syniad o’r holl rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sy'n galw'r parc yn gartref iddynt. Os ydych chi'n wyliwr adar, yn fotanegwr neu'n rhywun sy'n caru natur, byddwch yn dod o hyd i’r hyn rydych chi'n chwilio amdano ym Mharc Gwledig y Gnoll.
Rydym wrth ein bodd yn clywed gennych am y rhywogaethau rydych chi wedi'u gweld ar wahanol adegau o'r flwyddyn, felly cofiwch anfon e-bost atom neu ein tagio yn eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Parc y Gnoll yn cynnal parkrun bob bore Sadwrn am 9.00am. Mae'r daith 5k yn addas ar gyfer dechreuwyr a rhedwyr mwy profiadol ac mae'n mynd â chi heibio'r Pwll Pysgod, i mewn i'r ardaloedd coediog cyn mynd o gwmpas adfeilion Tŷ'r Gnoll ac yn ôl at y Ganolfan Ymwelwyr. Mae parkrun iau 2k hefyd yn cael ei gynnal bob bore Sul am 9.00am.
Mwynhewch luniaeth ar ôl rhedeg neu dewch i ddewis o'n bwydlen brecinio arbennig ar gyfer boreau Sadwrn i adnewyddu'ch nerth.
Grŵp o wirfoddolwyr yw Cyfeillion Parc y Gnoll sy'n helpu i wella'r amgylchedd naturiol yn y Parc. Maen nhw'n cwrdd bob mis i weithio ar brosiectau penodol megis cael gwared ar rywogaethau ymledol a rheoli cynefinoedd. Mae'r Cyfeillion bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i'w helpu gyda'u gwaith. Ewch i'w tudalen i gael gwybod mwy am eu prosiectau presennol a rhai'r gorffennol ac i ddysgu sut y gallwch chi gymryd rhan.
Gyda choetiroedd amrywiol, gerddi, gofodau gwyrdd ac adeiladau unigryw mae Parc Gwledig y Gnoll yn gefnlen perffaith ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu. Mae digon o le parcio yn y Parc ac mae modd ei gau'n rhannol i ganiatáu preifatrwydd ar y set. Os ydych chi'n chwilio am leoliadau newydd ac am gael gwybod ychydig mwy, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
COFRESTRWCH AR GYFER EIN LLYTHYR NEWYDDION
Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a'r nodweddion newydd sy'n digwydd ym Mharc Gwledig y Gnoll.